Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 20 Tachwedd 2019

Amser y cyfarfod: 13.30
 


243(v4)  

------

<AI1>

1       Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2       Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

3       Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

(30 munud)

Gweld y Cwestiynau

</AI3>

<AI4>

4       Cwestiynau Amserol

(20 munud)

Gofyn i’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

 

David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad ynghylch diogelwch tân mewn llety myfyrwyr yng Nghymru yn dilyn tân yr wythnos diwethaf ym Mhrifysgol Bolton?

</AI4>

<AI5>

5       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

</AI5>

<AI6>

6       Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Ardoll ar Barcio yn y Gweithle

(30 munud)

NDM7188 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i alluogi rhoi ardoll ar barcio yn y gweithle.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) galluogi awdurdodau lleol i weithredu ardoll ar barcio yn y gweithle, yn dibynnu ar nifer y lleoedd parcio a neilltuir i gyflogeion;

b) galluogi awdurdodau lleol i ddefnyddio'r refeniw i gryfhau trafnidiaeth gyhoeddus a llwybrau teithio llesol;

c) lleihau tagfeydd traffig mewn canolfannau poblogaeth mawr;

d) annog cyflogwyr i hyrwyddo cynlluniau teithio llesol ar gyfer eu staff ac eiriol ar gyfer gwell trafnidiaeth gyhoeddus;

e) cymell Llywodraeth Cymru i annog awdurdodau lleol yng Nghymru i roi'r ardoll hon ar waith, fel rhan o gyfres o fesurau i fynd i'r afael â'r allyriadau carbon sy'n achosi argyfwng yn yr hinsawdd.

</AI6>

<AI7>

7       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gofal Hosbis a Gofal Lliniarol

(60 munud)

NDM7193 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad y Grŵp Trawsbleidiol ar Hosbisau a Gofal Lliniarol ar Anghydraddoldebau o ran Mynediad i Ofal Hosbis a Gofal Lliniarol.

2. Yn cydnabod bod gan tua 23,000 o bobl yng Nghymru angen gofal lliniarol ar unrhyw un adeg, gan gynnwys dros 1,000 o blant.

3. Yn cydnabod er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud o ran ehangu mynediad i ofal hosbis a gofal lliniarol yng Nghymru, bod anghenion sylweddol sydd heb eu diwallu ac anghenion na fodlonwyd yn barhaus, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â hyn.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) amlinellu sut y bydd Cymru'n dod yn 'wlad dosturiol';

b) sicrhau bod cryfhau'r ddarpariaeth o wasanaethau gofal lliniarol yng Nghymru yn cael ei wneud yn ganolog i'r dull hwn o weithredu;

c) darparu meini prawf adrodd cyson, a mynd i'r afael â bylchau yn y data a gaiff eu casglu ar anghenion gofal lliniarol i oedolion a phediatrig;

d) diweddaru'r mecanwaith cyllido ar gyfer hosbisau elusennol fel ei fod yn seiliedig ar y data sydd ei angen ar y boblogaeth leol a nifer yr achosion;

e) cynyddu lefel y cyllid statudol a ddarperir i hosbisau oedolion a phlant yng Nghymru.

Grŵp Trawsbleidiol ar Hosbisau a Gofal Lliniarol, Anghydraddoldebau mewn mynediad at ofal hosbis a lliniarol, Gorffennaf 2018

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod bod cynnydd wedi’i wneud o ran ehangu mynediad i ofal hosbis a gofal lliniarol yng Nghymru a bod angen gwneud rhagor o waith i nodi unrhyw angen sydd heb ei ddiwallu

Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru:

a) yn parhau i weithio gyda phartneriaid statudol a phartneriaid yn y trydydd sector i gyflawni’r uchelgais o sicrhau mai Cymru yw 'gwlad dosturiol' gyntaf y byd;

b) yn sicrhau bod cryfhau’r ddarpariaeth gwasanaethau gofal lliniarol yng Nghymru yn cael ei wneud yn ganolog i’r dull gweithredu hwn;

c) yn darparu meini prawf adrodd cyson, ac yn mynd i’r afael â bylchau yn y data a gaiff eu casglu am anghenion gofal lliniarol oedolion a gofal lliniarol pediatrig;

d) yn parhau i fonitro’r dull cyllido ar gyfer hosbisau elusennol gan weithio gyda’r bwrdd diwedd oes a’r byrddau iechyd;

e) yn parhau i fonitro ac adolygu’r cyllid a ddarperir i hosbisau oedolion a phlant yng Nghymru.

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]

Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:

sicrhau bod gofalwyr yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt yn ystod ac ar ôl iddynt ofalu am rywun sy'n cael gofal lliniarol.

Gwelliant 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:

sicrhau bod amrywiaeth o wasanaethau ar gael ym mhob rhan o Gymru fel bod modd parchu dewisiadau'r unigolyn o ran y math o ofal lliniarol a ddarperir, ynghyd â lleoliad y gofal hwnnw.

</AI7>

<AI8>

8       Dadl Plaid Cymru - Strategaeth Cerbydau

(60 munud)

NDM7195 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1.    Yn nodi argymhelliad Pwyllgor Menter a Busnes y Pedwerydd Cynulliad yn 2013 y dylai Llywodraeth Cymru: 'Ddatblygu a chyhoeddi strategaeth cerbydau fel mater o frys, nid dim ond i sicrhau bod penderfyniadau pwysig ynglŷn â chydweddiad cerbydau ar gyfer trydaneiddio a deddfwriaeth hygyrchedd yn cael eu cymryd mewn da bryd i osgoi’r costau uwch a’r tarfu sy’n deillio o oedi, ond hefyd i gynyddu capasiti ac ansawdd trenau ar gyfer y tymor hir '.

2.    Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru:

(a)  i gymryd camau priodol i fynd i'r afael â'r materion y tynnwyd sylw atynt mor bell yn ôl â 2013 mewn perthynas â cherbydau;

(b)  i gyrraedd y dyddiad cau ar gyfer cydymffurfio â rheoliadau pobl â chyfyngiadau symudedd (PRM) mewn perthynas â'i gerbydau;

(c)   i wneud cais amserol i'r Adran Drafnidiaeth am y rhyddhad angenrheidiol i gadw trenau nad ydynt yn cydymffurfio â rheoliadau pobl â chyfyngiadau symudedd (PRM) mewn gwasanaeth o fis Ionawr 2020.

3.    Yn mynegi pryder am yr aflonyddwch parhaus y mae llawer o deithwyr rheilffordd Trafnidiaeth Cymru yn ei wynebu bob dydd.

4.    Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi sicrwydd bod ganddi gynlluniau wrth gefn ar waith i liniaru'r posibilrwydd o golli cyfran fawr o'i fflyd.

Y Pwyllgor Menter a Busnes, Dyfodol Masnachfraint Cymru a'r Gororau, Rhagfyr 2013

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu popeth ar ôl “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” a rhoi yn ei le:

1. Yn croesawu’r buddsoddiad o £5 biliwn yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru dros y 15 mlynedd nesaf, gan gynnwys dros £800 miliwn mewn cerbydau.

2. Yn nodi’r heriau y mae’r diwydiant rheilffyrdd yn eu hwynebu ar draws y DU o safbwynt cydymffurfiaeth â’r gofynion o ran teithwyr â symudedd cyfyngedig sy’n effeithio ar fasnachfreintiau ar draws y DU.

3. Yn cydnabod mai un o’r prif resymau dros brinder cerbydau yw’r ffaith nad yw Llywodraeth y DU wedi edrych i’r dyfodol wrth gwtogi ei rhaglen drydaneiddio, gan effeithio ar Abertawe ac arwain at oedi o safbwynt darpariaeth cerbydau.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau nad yw’r etholiad cyffredinol yn amharu ar geisiadau am randdirymiadau o safbwynt teithwyr â symudedd cyfyngedig er mwyn sicrhau capasiti ychwanegol ar y rhwydwaith am gyfnod byr hyd 2020.

5. Yn nodi nad yw’r system gerbydau ar draws y DU yn gweithio ac yn galw ar Lywodraeth y DU i gydweithio â’r gweinyddiaethau datganoledig er mwyn datblygu model newydd.

Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi mai mater i Lywodraeth Cymru oedd y cyfrifoldeb dros ddarparu capasiti cerbydau ar gyfer gwasanaethau Cymru a gwasanaethau i Gymru yn unig o dan y fasnachfraint reilffyrdd a weithredwyd gan Drenau Arriva Cymru ers 2006. 

 

</AI8>

<AI9>

9       Cyfnod pleidleisio

</AI9>

<AI10>

10    Dadl Fer - Gohirwyd tan 8 Ionawr 2020

NDM7194 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

Cymru Dairieithog: Y gwerth i Gymru o addysgu ieithoedd tramor modern.

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 26 Tachwedd 2019

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>